Sut mae archebu apwyntiad yn Archifau Richard Burton?

Dyma oriau agor ein hystafell ddarllen:

Dydd Mawrth 9.15yb – 4.15yp
Dydd Mercher 9.15yb – 4.15yp
Dydd Iau 9.15yb – 4.15yp

Mae pob ymweliad â'r Archifau trwy apwyntiad ymlaen llaw - cysylltwch â ni trwy archives@abertawe.ac.uk neu 01792 295021. Gofynnwn i ddarllenwyr roi manylion y deunyddiau y maent am ymgynghori â nhw o leiaf dri diwrnod gwaith cyn ymweld. Mae swyddfa'r Archifau ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener ar gyfer ymholiadau.

Rydym yn cymryd rhan yng nghynllun tocynnau darllenwyr y Cerdyn Archifau ac os nad oes gennych un eisoes bydd angen i chi wneud cais. Rydym yn argymell eich bod yn gwneud cais ar-lein cyn eich ymweliad trwy www.archivescard.com ac yna'n dod â dau fath o ddogfen adnabod i mewn i dderbyn eich cerdyn. Mae'r Cerdyn Archifau yn rhad ac am ddim ac yn ddilys am 5 mlynedd.


Answer

  • Last Updated Jul 30, 2025
  • Views 2
  • Answered By Elen Davies (Librarian)

FAQ Actions

Was this helpful? 0 0