Mae angen cyngor arnaf ar fy nhraethawd hir, a allai Archifau Richard Burton fy helpu?
Os oes gennych chi syniadau eisoes am y pwnc yr hoffech chi ysgrifennu amdano, anfonwch e-bost atom ni yn archives@abertawe.ac.uk a byddwn ni'n cysylltu â chi gyda rhestrau o ffynonellau (neu awgrymiadau o ffynonellau a gedwir mewn mannau eraill os nad oes gennym ni unrhyw beth perthnasol).
Am syniadau am bynciau traethawd hir posibl, edrychwch ar ein Canllawiau Ymchwil a Chanllawiau Casgliadau.
Mae'n werth cofio eich lleoliad a'ch cyfleoedd wrth ddewis pwnc traethawd hir. A yw eich pwnc yn gofyn i chi deithio dramor? Oes gennych chi'r amser a'r cyllid i wneud hyn? Os gallwch chi ddewis pwnc lle mae'r ffynonellau cynradd ar garreg eich drws yn lle hynny, byddwch chi'n gweld bod trefnu eich ymchwil yn llawer haws.