Mae fy adroddiad yn cynnwys nifer o adrannau, sydd ag URLs ar wahân. A ddylwn i gyfeirnodi pob un yn unigol neu'r adroddiad cyfan?
Yn aml pan fyddwch yn edrych ar adroddiadau yn Mintel, cewch eich tywys i adran o'r adroddiad yn hytrach na'r ddogfen gyfan. Dylech gyfeirnodi'r adroddiad cyfan gan mai awdur corfforaethol sydd dan sylw.
Fodd bynnag, er mwyn tywys y darllenydd i'r rhan gywir o'r ddogfen, byddai'n well pe bai'r dyfyniad yn y testun yn cynnwys digon o wybodaeth i alluogi'r darllenydd i ddod o hyd i'r adran yn hawdd.
Cyfeirnodi Adroddiad
Cyfeirnod:
Awdur corfforaethol. (Blwyddyn gyhoeddi). Teitl yr Adroddiad. http://URL
Dyfyniad yn y testun (adroddiad llawn):
(Awdur, blwyddyn)
Answer
Yn aml pan fyddwch yn edrych ar adroddiadau yn Mintel, cewch eich tywys i adran o'r adroddiad yn hytrach na'r ddogfen gyfan. Dylech gyfeirnodi'r adroddiad cyfan gan mai awdur corfforaethol sydd dan sylw.
Fodd bynnag, er mwyn tywys y darllenydd i'r rhan gywir o'r ddogfen, byddai'n well pe bai'r dyfyniad yn y testun yn cynnwys digon o wybodaeth i alluogi'r darllenydd i ddod o hyd i'r adran yn hawdd.
Cyfeirnodi Adroddiad
Cyfeirnod:
Awdur corfforaethol. (Blwyddyn gyhoeddi). Teitl yr Adroddiad. Adalwyd o http://URL
Dyfyniad yn y testun (adroddiad llawn):
(Awdur, blwyddyn)