Pryd y dylwn i ddefnyddio priflythrennau yn fy nghyfeiriadau?
Priflythrennu mewn cyfeiriadau
- Teitl yr erthygl – dylai gair cyntaf teitl yr erthygl ddechrau gyda llythyren fawr, ond dylai geiriau dilynol ddechrau gyda llythyren fach.
- Teitl y Cofnodlyfr – dylai pob gair ddechrau gyda llythyren fawr heblaw am eiriau bach o fewn y teitl. Er enghraifft, 'Journal of Management' ac nid 'Journal Of Management'.