Rwyf wedi darllen llyfr sy'n dyfynnu rhywbeth yr hoffwn gynnwys yn fy ngwaith, beth ddylwn i ei wneud?
Gelwir hyn yn gyfeirnodi eilaidd. Y cyngor yw, darllenwch y gwaith gwreiddiol lle bynnag y bo'n bosibl. Nid yw hyn yn ymarferol yn aml iawn, felly mae angen i chi sicrhau bod y darllenydd yn ymwybodol nad ydych wedi darllen y gwreiddiol a chyfeiriwch at y gwaith y gwnaethoch ei ddarllen.
Cyfeirnodi Eilaidd
Cyfeirnod:
Dim ond yr eitem rydych wedi'i ddarllen y bydd eich rhestr gyfeirio yn ei gynnwys.
Cydnabod o fewn y testun:
Dadleuodd Kleinman (1996) a ddyfynnir yn Cunningham-Burley (1998)...