Sut ydw i'n cyfeirio at gyfraith achosion yn arddull APA (7fed arg.)?

Ni chaiff cyfraith achosion ei chynnwys mewn rhestrau cyfeiriadau na llyfryddiaethau o gwbl. Fodd bynnag, wrth gyfeirio at achos am y tro cyntaf mewn aseiniad, dylid rhoi dyfyniad llawn ar y ffurf ganlynol:

Partïon yn yr achos [blwyddyn] Rhif y gyfrol Byrfodd am enw'r adroddiad Tudalen gyntaf yr adroddiad

Er enghraifft:

R v Gloucestershire County Council, Ex parte Barry [1997] AC 584

Am gyfeiriadau dilynol yn y testyn dim ond y Partïon yn yr achos sydd angen eu defnyddio.  Er enghraifft:

Fel y'i nodwyd yn R v Gloucestershire County Council, Ex parte Barry...

or

… mae achos R v. Gloucestershire County Council, Ex parte Barry yn dangos bod…

 

Cyfeirnodi eilaidd Os nad ydych wedi darllen yr achos gwreiddiol yna yn y testyn bydd angen i chi gyfeirnodi yn eilaidd:

R v Gloucestershire County Council, Ex parte Barry [1997] AC 584 fel y dyfynnwyd yn Brammer (2010)

Yn rhestr gyfeiriadau dylech gynnwys manylion y gwaith rydych wedi’i ddarllen yn unig.  Yn yr enghraifft hon, pennod mewn llyfr:

Brammer, A. (2010). Community care and the promotion of independence. Yn L-A. Long, J. Roche, & D. Stringer (Goln.), The law and social work contemporary issues for practice (2il arg., pp. 211-223). Palgrave Macmillan.


Answer

  • Last Updated Mar 13, 2024
  • Views 51
  • Answered By Elen Davies (Librarian)

FAQ Actions

Was this helpful? 0 0