A oes angen i mi ddefnyddio ECLl wrth ddyfynnu achosion o Lys Barn Ewrop?
Gellir gweld yr ECLI (Dynodwr Cyfraith Achosion Ewropeaidd) mewn cyfeiriadau at yr ECJ (Llys Cyfiawnder Ewrop) ac mae’n debyg i gyfeiriad niwtral y DU. Nid yw’n rhan o OSCOLA ar hyn o bryd, felly gellir ei hepgor. Dyma enghraifft o ECLI: EU:C:2013:147. Os dewiswch ei ddefnyddio, rhowch y cyfeirnod ar ôl enw’r achos rydych yn cyfeirio ato.