Sut ydw i'n cyfeirio at rhywbeth os nad oes gennyf y dyddiad yn arddull APA (7fed arg.)?
Os oes gwybodaeth ar goll o'ch cyfeirnod ac na allwch ddod o hyd iddi, mae yna ffyrdd o hyd i gyfeirio'r wybodaeth gan ddefnyddio fformat APA (7fed arg.). Gall hyn ddigwydd fwyaf gyda thudalennau gwe a gwefannau.
DS: Peidiwch â defnyddio'r dyddiad hawlfraint o droedyn tudalen we.
Dim dyddiad: Os yw'r dyddiad yn anhysbys neu na ellir ei bennu defnyddiwch (d.d.)
Er enghraifft:
Yn y testyn:
Coleg Nyrsio Brenhinol (d.d.)...
NEU
...(Coleg Brenhinol Nyrsio, d.d.).
Yn y rhestr gyfeiriadau: Coleg Brenhinol Nyrsio. (d.d.). Becoming a nurse. https://www.rcn.org.uk/Professional-Development/become-a-nurse
Cyfeirnodi ychydig o gofnodion, gyda'r un awduron ond dim dyddiad Os yw'r awduron yr un peth, ond nad oes dyddiad ar yr eitemau, mae angen ichi ysgrifennu nd. am ddim dyddiad, ac ychwanegwch y llythrennau bach fel o’r blaen, ond y tro hwn hefyd mae angen cysylltnod cyn y llythyren e.e. (n.d.-a).
Yn y rhestr cyfeiriadau
Mae'r rhain yn ymddangos yn nhrefn yr wyddor yn ôl teitl
Coleg Brenhinol Nyrsio. (d.d.-b). Become a midwife. https://www.rcn.org.uk/Professional-Development/become-a-midwife
Coleg Brenhinol Nyrsio. (d.d.-b). Become a nurse. https://www.rcn.org.uk/Professional-Development/become-a-nurse
Yn y testyn:
Coleg Brenhinol Nyrsio (d.d.-a)...
Neu
...(Coleg Brenhinol Nyrsio, d.d.-a).