Sut ydw i'n fformattio y rhestr gyfeiriadau mewn arddull APA (7fed arg.) yn gywir?

Mae'n bwysig bod y rhestr gyfeirio wedi'i fformatio yn yr Arddull APA gywir. Mae myfyrwyr weithiau'n cael anhawster â hyn ac yn treulio llawer o amser yn fformatio'u rhestri eu hunain; ond mae nifer o offer Word a all wneud y broses hon yn gynt ac yn haws i chi.

Pwyntiau allweddol

  • Dylid dechrau'r Rhestr Gyfeiriadau ar dudalen newydd.
  • Dylai'ch Rhestr Gyfeiriadau gynnwys popeth** rydych wedi'i ddyfynnu yn eich aseiniad, NID popeth rydych wedi'i ddarllen (a elwir yn llyfryddiaeth).
  • Dylai fod yn nhrefn y wyddor yn ôl cyfenw'r awdur.
  • Dylai fod bylchau dwbl rhwng llinellau a dylai fod wedi'i mewnoli.

Gweler y sgrinlediad sy'n dangos sut y gallwch roi trefn ar eich rhestr gyfeiriadau'n gywir gan ddefnyddio Word 

https://libguides.swansea.ac.uk/CyfeirnodiAPA7/RhestrCyfeiriadau

**Ag eithrio Deddfau Seneddol a Gyfraith Achosion sydd  ddim yn cael eu cynnwys yn y rhestr gyfeirio.


Answer

  • Last Updated Mar 13, 2024
  • Views 43
  • Answered By Elen Davies

FAQ Actions

Was this helpful? 0 0