Sut ydw i'n cyfeirio at ganllawiau National Institute for Health and Care Excellence (NICE) yn arddull APA (7fed arg.)?
Rhan fwya'r amser nid oes awdur personol gyda canllawiau NICE felly y sefydliad yw'r awdur. Dilynwch yr esiampl canlynol wrth i chi gyfeirnodi canllawiau NICE. Cofiwch ddefnyddio'r dyddiad cyhoeddi wedi'i ddiweddaru:
Yn y testyn (dyfyniad 1af):
National Institute for Health and Care Excellence (NICE, 2020)...
neu
...(National Institute for Health and Care Excellence (NICE), 2020).
Yn y testyn (dyfyniad dilynol):
NICE (2020)...
neu
...(NICE, 2020).
Yn y rhestr gyfeiriadau:
National Institute for Health and Care Excellence. (2020). Supporting adult carers (NICE Guideline NG150). https://www.nice.org.uk/guidance/ng150/resources/supporting-adult-carers-pdf-66141833564869