Sut ydw i'n cyfeirio at Borton (1970) yn arddull APA (7fed arg.)?

Defnyddiwch y gwaith gwreiddiol lle bynnag y bo modd.

Borton, T. (1970). Reach, touch and teach. Hutchinson.

Cyfeirnodi eilaidd:

Os nad ydych wedi darllen y gwaith gwreiddiol, rhaid i chi egluro eich bod heb ddarllen y gwreiddiol drwy gyfeirio at y gwaith lle daethoch o hyd i’r cyfeiriad ato. Yn y rhestr gyfeiriadau, dylech gynnwys manylion y gwaith rydych wedi’i ddarllen yn unig

Yn y testyn:
Borton (1970) fel y dyfynnwyd yn Jasper (2013)…

NEU

...yn theori allweddol ym maes ymarfer myfyriol (Borton, 1970, fel y dyfynnwyd yn Jasper, 2013).

Yn y rhestr gyfeiriadau:
Jasper, M. (2013). Beginning reflective practice (2il arg.). Cengage Learning.


Answer

  • Last Updated Mar 13, 2024
  • Views 28
  • Answered By Elen Davies

FAQ Actions

Was this helpful? 0 0