Sut ydw i'n cyfeirio at ddifiniad iechyd gan Gyfundrefn Iechyd y Byd (WHO) yn arddull APA (7fed arg.)?
Yn gyntaf, edrychwch ar y ffynhonell lle rydych wedi darllen y difiniad, gall fod yn wefan, llyfr neu erthygl.
Defnyddiwch y ffynhonell hon yn eich rhestr gyfeiriadau.
Yn y rhestr gyfeiriadau:
World Health Organization. (d.d.). Frequently asked questions. https://www.who.int/about/frequently-asked-questions
Yn y testyn defnyddiwch y ffynhonell lle rydych wedi darllen y difiniad:
Yn y testyn:
Ym 1948 difinir iechyd gan y World Health Organization (WHO) fel “a state of complete physical, mental and social well-being and not merely the absence of disease or infirmity” (WHO, d.d., para. 14).
DS: Mae angen i chi ddefnyddio dyfynodau a rhif y tudalen neu paragraff os ydych yn cynnwys dyfyniad uniongyrchol.