Beth yw DOIs ac URLs a sut ydw i'n eu fformatio?
Beth yw DOIs ac URLs
Mae DOI (Dynodydd Gwrthrych Digidol) yn set unigryw o lythrennau a rhifau sy'n rhoi cyswllt parhaol ag adnodd ar y rhyngrwyd. Gallai hyn fod yn erthygl, yn llyfr neu'n bennod mewn llyfr.
Mae URL (Lleolydd Adnodd Unffurf) yn gyfeiriad lle gellir dod o hyd i'r adnodd ar y rhyngrwyd.
Os ydych chi'n gallu canfod DOI ar gyfer adnodd rydych yn ei ddefnyddio, dylech gynnwys hwn yn y cyfeirnod ar y diwedd (gweler y tab perthnasol ar 7fed canllaw cyfeirnodi ar-lein APA er mwyn gweld sut ddylai hwn edrych).
Sut mae fformatio DOIs ac URLs mewn cyfeiriad yn APA7?
Rhowch DOIs ac URLs fel hyperddolenni
Dylid nodi DOI fel a ganlyn: https://doi.org/xxxxx
https://doi.org/ yw sut mae'r DOI yn cael ei gyflwyno fel dolen, ac mae xxxxx yn cyfeirio at y rhif DOI.
Mae'r fformat DOI wedi newid dros amser, safoni DOI i'r fformat presennol ar gyfer pob cofnod. Er enghraifft, defnyddiwch https://doi.org/10.3945/jn.109.117093 yn eich cyfeirnod er bod yr erthygl, a gyhoeddwyd yn 2010, wedi cyflwyno'r rhif fel doi:10.3945/jn.109.117093.
Peidiwch ag ychwanegu atalnod llawn ar ôl y DOI neu'r URL oherwydd gallai ymyrryd â'r ddolen.
Pwyswch y fysell enter yn syth ar ôl DOI i'w actifadu, felly mae'n troi'n las.