Sut mae cyfeirio at adnodd sydd wedi'i fformatio fel PDF?
Gellir fformatio unrhyw fath o adnodd ar-lein fel PDF. Mae hyn yn cynnwys erthyglau cyfnodolion, tudalennau gwe, adroddiadau, penodau llyfrau a llyfrau. I gyfeirio at PDF, penderfynwch pa fath o adnodd ydyw (e.e. erthygl mewn cyfnodolyn) a dilynwch y canllawiau ar gyfer y math hwnnw o ddogfen ar y canllaw cyfeirnodi.