Sut ydw i'n cyfeirio at ddelwedd yn arddull APA (7fed arg.)?
Gwiriwch i weld a oes awdur yn gysylltiedig â'r ddelwedd rydych chi am ei defnyddio. Er enghraifft, yn Canva mae angen i chi glicio ar y tri eicon wrth ymyl delwedd a bydd ffenestr yn ymddangos gyda'r manylion hyn. O fan hyn cliciwch ar y dde ar y teitl, yna dewiswch gopïo cyfeiriad y ddolen i gael yr URL. Dyma enghraifft o sut i ddod o hyd i'r awdur a'r URL yn Canva.
Dyfynnu delweddau (heb eu cynhyrchu gan ddefnyddio AI):
Yn y testun:
Ffigwr 1: Meddyg yn gwirio pwysedd gwaed rhydweli'r claf
Ffynhonnell (Charliepix, d.d)
Yn y rhestr gyfeiriadau:
Charliepix. (d.d). Meddyg yn gwirio pwysedd gwaed rhydweli'r claf [Ffotograff]. Canva. https://www.canva.com/photos/MAFX5ZOAoWg-doctor-checking-old-woman-patient-arterial-blood-pressure-healt/
Dyfynnu delweddau a gynhyrchwyd gan ddefnyddio teclyn AI:
Yn y testun:
Ffigwr 2: Cath yn eistedd ar soffa
Nodyn: Delwedd a gynhyrchwyd gan ddefnyddio Canva Image Generator Ffynhonnell (Canva, 2025)
Yn y rhestr gyfeiriadau:
Canva. (2025). Canva image generator [Large language model]. https://www.canva.com/ai-image-generator/
Mae APA (2020) yn nodi y gellir “defnyddio delweddau a chlipluniau o raglenni fel Microsoft Word a Microsoft PowerPoint heb briodoli.” YGallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth ar ein Canllaw Llyfrgell APA https://libguides.swansea.ac.uk/CyfeirnodiAPA7/Delweddau
DS: Os ydych chi'n defnyddio'ch delweddau eich hun (ee: ffotograff eich hun) does ond angen i chi gynnwys pennawd. Nid oes angen dyfyniad mewn testun na chynnwys yn eich rhestr gyfeiriadau.