Sut dylwn i gyfeirnodi datganiad i’r wasg yn arddull APA 7fed arg.?

Yn y testun:  

Mae’r U.S. Food and Drug Administration (2019) yn honni bod…  

NEU 

…(U.S. Food and Drug Administration, 2019). 

 

Yn y rhestr gyfeiriadau:   

Cyfenw, Blaenlythyren/blaenlythrennau neu Awdur Grŵp. (Blwyddyn, Mis, Dyddiad). Teitl (mewn llythrennau Italig) [Datganiad i’r wasg]. Cyhoeddwr. URL    

  

U.S. Food and Drug Administration. (2019, Tachwedd 15). FDA approves first contact lens indicated to slow the progression of nearsightedness in children [Datganiad i'r wasg]. https://www.fda.gov/news-events/press-announcements/fda-approves-first-contact-lens-indicated-slow-progression-nearsightedness-children

 

Pan fydd yr awdur a’r cyhoeddwr yr un peth, i osgoi ailadrodd, peidiwch â nodi’r cyhoeddwr, fel y dangosir yn yr enghraifft.  

Defnyddiwch enw’r grŵp a gyhoeddodd y datganiad i’r wasg fel yr awdur. 

 

 


Answer

  • Last Updated Nov 08, 2021
  • Views 31
  • Answered By Elen Davies (Librarian)

FAQ Actions

Was this helpful? 0 0