Sut mae cyfeirio at adran benodol o Ddeddf yn arddull APA (7fed arg.)?
Ni ddylid cynnwys Deddfau Seneddol mewn rhestrau cyfeiriadau APA o gwbl. Fodd bynnag, wrth gyfeirio at y ddeddf am y tro cyntaf, dylid rhoi dyfyniad llawn yn nhestun eich aseiniad.
Er enghraifft:
Yn ôl y Human Rights Act 1998...
Neu
...(Human Rights Act 1998).
Dyfynnu adran benodol o ddeddf:
Mae s.5 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn nodi...
Neu
Yn ôl s.5 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014...
Neu
Mae angen cefnogi gofalwyr a hyrwyddo'u lles (Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, s.5).
Ceir manylion llawn yn eich Canllaw Llyfrgell APA (7fed arg.).