Sut mae cyfeirio at gyfrolau o ddalennau rhydd yn OSCOLA?
Isod, ceir arweiniad ac enghreifftiau o sut i gyfeirnodi cyfrolau o ddalennau rhydd mewn troednodiadau ac yn y llyfryddiaeth:
Troednodiadau:
Wrth gyfeirnodi dalennau rhydd, dim ond teitl y cyhoeddiad sydd ei eisiau mewn llythrennau italig. Does dim angen cynnwys y golygyddion oni bai bod eu henwau'n ymddangos yn y teitl.
Enghraifft:
Ryde on Rating and the Council Tax.
Peidiwch â chynnwys manylion penodol oni bai bod yn rhaid, oherwydd gall y rhain newid pan fydd y cyhoeddiad yn cael ei ddiweddaru.
Os bydd manylyn penodol yn cael ei gynnwys, defnyddiwch y fformat hwn:
Teitl, | rhif y gyfrol, | rhif y paragraff | (rhif cyhoeddi/rhyddhau NEU ddyddiad).
Enghreifftiau:
Clarke Hall & Morrison on Children, cyfrol 2, para 522-525 (rhifyn 102).
Encyclopedia of Consumer Credit Law cyfrol 3, para X-729J (Mai 2017).
Llyfryddiaeth:
Nid yw manylion penodol yn cael eu cynnwys yn y llyfryddiaeth, felly dim ond teitl y cyhoeddiad sydd ei angen heb atalnod llawn ar y diwedd.
Cyfraith Gyhoeddus