Sut mae cyfeirio at ChatGPT ac offer Deallusrwydd Artiffisial (AI) eraill yn arddull APA?
Gellir dod o hyd i'r cyngor canlynol ar flog APA https://apastyle.apa.org/blog/how-to-cite-chatgpt
Enghraifft yn y testun:
Pan ofynnir iddo “Is the left brain right brain divide real or a metaphor?” nododd y testun a gynhyrchwyd gan ChatGPT, er bod y ddau hemisffer ymennydd braidd yn arbenigol, “the notation that people can be characterized as ‘left-brained’ or ‘right-brained’ is considered to be an oversimplification and a popular myth” (OpenAI, 2023).
Yn y rhestr gyfeiriadau:
OpenAI. (2023). ChatGPT (Fersiwn Maw 14) [Model iaith fawr]. https://chat.openai.com/chat
Gallwch hefyd roi testun llawn ymatebion hir gan ChatGPT mewn atodiad i'ch papur, fel bod darllenwyr yn gallu gweld yr union destun a gynhyrchwyd. Gwiriwch gyda'ch Adran os yw hyn yn ofynnol.