Sut mae cyfeirio at Adnodd Bwrdd Iechyd yn arddull APA (7fed arg.)?

Dyma rai canllawiau ar sut i ddyfynnu'r offer hyn yn eich aseiniad. Cofiwch gadw at god yr NMC (2018) a PEIDIWCH a chrybwyll enwau wardiau, defnyddiwch enwau Byrddau Iechyd yn lle hynny.

Yn gyntaf mae angen i chi sefydlu tarddiad yr offeryn – A yw’n declyn sy’n deillio o’r Bwrdd Iechyd neu’n declyn Cymru Gyfan, efallai y bydd rhyw fath o gyfeiriad ar yr offeryn i’ch helpu i sefydlu hyn.

Felly, os yw’n offeryn Bwrdd Iechyd dylid cyfeirio ato fel yr enghraifft ganlynol:

Yn y rhestr gyfeiriadau:
Enw’r Bwrdd Iechyd. (dyddiad cyhoeddi). Enw'r offeryn.

Os oes gwybodaeth ar goll gallwch ddefnyddio:

(d.d.). Os nad oes dyddiad ar y ddogfen

Er enghraifft:
Enw'r Bwrdd Iechyd. (d.d.). Enw'r offeryn.


Answer

  • Last Updated Mar 13, 2024
  • Views 15
  • Answered By Elen Davies (Librarian)

FAQ Actions

Was this helpful? 0 0