A allaf ddefnyddio acronymau yn fy aseiniad?
Os byddwch yn cydnabod yr un ffynonell sawl gwaith yn eich aseiniad, defnyddiwch acronymau. Rhaid i chi egluro’r acronym yn llawn y tro cyntaf, gyda’r acronym ei hun, fel bod yr ystyr yn amlwg i’r darlithydd.
Enghraifft:
Y tro cyntaf:
Mae'r World Health Organization (WHO, 2018) yn nodi bod...
NEU
...(World Health Organization (WHO), 2018).
Pob tro wedi hynny:
Mae'r WHO (2018) yn nodi bod...
NEU
...(WHO, 2018).