Rwyf wedi mewnforio cyfeiriadau o sawl cronfa ddata. A allaf wirio am ddyblyg cofnodion?

I wirio am gofnodion dyblyg yn EndNote ewch i'r ddewislen References a dewiswch Find duplicates. Bydd y sgrin wedyn yn dangos unrhyw gofnodion y mae EndNote yn eu hystyried yn ddyblyg er mwyn i chi allu eu gwirio a phenderfynu pa rai i’w cadw.

Fel arfer mae'n well cadw'r hynaf o'r ddau gofnod. Mae hyn oherwydd efallai eich bod wedi ei ddefnyddio mewn dogfennau. Bydd cyfeiriad yn cael ei adnabod yn Word wrth ei rif cofnod - hyd yn oed os yw'r cyfeiriad newydd yn edrych yn union yr un fath â'r hen un ni fydd Word yn ei adnabod oherwydd bod ganddo rif gwahanol. Os oes gwybodaeth ddefnyddiol yn y cofnod mwy diweddar gallwch glicio a llusgo neu gopïo a gludo i mewn i'r cofnod hŷn.

Gwyliwch ein fideo byr ar ddad-ddyblygu ar ganllaw Llyfrgell EndNote


Answer

  • Last Updated Apr 14, 2025
  • Views 21
  • Answered By Elen Davies

FAQ Actions

Was this helpful? 0 0