Mae fy nhraethawd hir mewn ffeiliau Word gwahanol ar gyfer penodau gwahanol, ac mae gan bob un ohonynt lyfryddiaeth Endnote. Sut y gallaf gynhyrchu un llyfryddiaeth ar gyfer diwedd fy nhraethawd hir?

Un ffordd o wneud hyn fyddai cynhyrchu un llyfryddiaeth drwy gyfuno'r holl ffeiliau o fewn un ffeil fawr. I wneud hyn:

  • Gwnewch gopi wrth gefn o’ch holl ffeiliau a gweithiwch gyda’r ffeiliau wrth gefn er mwyn cadw’ch ffeiliau gwreiddiol yn ddiogel.
  • Agorwch bob dogfen (y copïau, nid eich ffeiliau gwreiddiol) a dadfformatiwch y dyfyniadau. O’r fwydlen EndNote yn Word dewiswch Convert citations a Bibliography ac wedyn Convert to unformatted citations.

Wedyn bydd eich cyfeiriadau yn ymddangos mewn ffordd debyg i’r canlynol: {Jones, 2009 #14} a bydd eich llyfryddiaeth wedi diflannu. Cadwch eich dogfennau pan fyddwch wedi gwneud hyn.

  • Agorwch eich pennod gyntaf ac wedyn eich ail bennod. Dewiswch yr ail bennod gyfan (Ctrl +A) a’i gludo i mewn i’r ddogfen gyntaf ar ôl eich pennod gyntaf. Copiwch a gludwch bob pennod tan y bydd popeth mewn un ddogfen. Cadwch y ddogfen hon.
  • Agorwch eich dogfen gyfan. Ewch i’r fwydlen EndNote yn Word a dewiswch

Dylai EndNote nawr ailfformatio eich holl ddyfyniadau a chreu un llyfryddiaeth ar y diwedd


Answer

  • Last Updated Aug 07, 2024
  • Views 14
  • Answered By Elen Davies (Librarian)

FAQ Actions

Was this helpful? 0 0