Sut mae cyfeirio at eitemau gyda'r un awdur a dyddiad yn arddull APA (7fed arg.)?

Os ydych yn cyfeirio at eitemau gyda'r un awdur a dyddiad, rydych yn cyfeirio yn nhrefn yr wyddor gan ddefnyddio teitl yr eitem. Mae angen i chi hefyd ychwanegu llythrennau bach, yn nhrefn yr wyddor, at y dyddiad i wahaniaethu rhwng y cyfeiriadau, er enghraifft:

Yn y testun
Morse a Brown (2022a)… 
NEU 
…(Morse & Brown, 2022a). 

Morse a Brown (2022b)…
NEU  
…(Morse & Brown, 2022b) 

Cofiwch pan fyddwch chi'n dyfynnu'r cyfeirnod yn y testun, rydych chi'n ychwanegu'r llythyren fach sy'n cyfateb i'r man lle mae'r eitem yn ymddangos yn y rhestr gyfeirio, felly yn yr enghraifft hon, mae'n bosibl y caiff ei chrybwyll (Morse & Brown, 2022b) yn y testun o'r aseiniad o'r blaen (Morse a Brown, 2022a).

Yn y rhestr cyfeirio

Morse, H., & Brown, A. (2022a). The benefits, challenges and impacts of accessing social media group support for breastfeeding: A systematic review. Maternal & Child Nutrition, 18(4), Article e13399. https://doi.org/10.1111/mcn.13399 

Morse, H., & Brown, A. (2022b). Mothers’ experiences of using Facebook groups for local breastfeeding: Support results of an online survey exploring midwife moderation. PLoS Digital Health, 1(11), Article e0000144. https://doi.org/10.1371/journal.pdig.0000144 

 

Cyfeirnodi eitemau gyda'r un awduron ond dim dyddiad
Os yw'r awduron yr un peth, ond nad oes dyddiad ar yr eitemau, mae angen ichi ysgrifennu nd. am ddim dyddiad, ac ychwanegwch y llythrennau bach fel o’r blaen, ond y tro hwn hefyd mae angen cysylltnod cyn y llythyren e.e. (d.d.-a).

Yn y rhestr cyfeirnodi

Hywel Dda University Health Board. (d.d.-a). Falls risk assessment tool. 

Hywel Dda University Health Board. (d.d.-b). Pressure ulcer risk assessment: Waterlow


Yn y testun (Dyfyniad 1af)

Hywel Dda University Health Board (HDUHB, d.d.-a)... 
OR
...(Hywel Dda University Health Board (HDUHB), d.d.-a).

Yn y testun (Dyfyniadau yn olynol)

HDUHB (d.d.-a)... 
NEU
...(HDUHB, d.d.-a).


Answer

  • Last Updated Aug 29, 2024
  • Views 15
  • Answered By Elen Davies (Librarian)

FAQ Actions

Was this helpful? 0 0