Sut mae cyfeirio at offer deallusrwydd artiffisial cynhyrchiol (AI) yn arddull OSCOLA?

Answer

Mae canllawiau ar sut i ddyfynnu offer deallusrwydd artiffisial cynhyrchiol (AI) yn faes sy'n esblygu ac nid oes llawer o gytundeb cyffredinol eto ar sut i gyfeirio ato. Byddwn yn parhau i adolygu a diweddaru canllawiau, felly gwiriwch yn ôl am ddiweddariadau  

Nid oes unrhyw ganllawiau swyddogol ar sut i gyfeirio at AI ar gyfer OSCOLA. Ar hyn o bryd rydym yn argymell cyfeirio at ddefnyddio unrhyw feddalwedd/offeryn AI fel a ganlyn: 

Enghraifft yn y testun: (Troednodyn):  

Ymateb Microsoft Copilot i'r cwestiwn 'beth yw'r gyfraith yn Lloegr ynghylch defnyddio dronau'n ddiogel?' (3 Medi 2025).  

  

Yn y rhestr gyfeiriadau:    

Microsoft Copilot, 'Ymateb Copilot i'r awdur' < https://copilot.microsoft.com > wedi'i gyrchu: 3 Medi 2025. 

  

Nodyn: Gallwch hefyd roi testun llawn ymatebion hir o offer AI mewn atodiad i'ch papur neu mewn deunyddiau atodol ar-lein, fel bod gan ddarllenwyr fynediad at yr union destun a gynhyrchwyd. Gwiriwch gyda'ch Adran a yw hyn yn ofyniad. 

  • Last Updated Sep 17, 2025
  • Views 3
  • Answered By Elen Davies (Academic Support Team)

FAQ Actions

Was this helpful? 0 0