Sut mae cael mynediad i draethawd ymchwil neu enghraifft o draethawd hir?

Ceir gwybodaeth am yr holl draethodau ymchwil a dderbynnir gan y llyfrgell yn iFind, catalog y llyfrgell. 

Ym mlwch chwilio iFind, gallwch chwilio ar sail allweddair ar gyfer eich pwnc a'r geiriau: swansea thesis. Yna gallwch ddefnyddio'r bar Mireinio i gyfyngu'r chwiliad i ystod blynyddoedd neu Golegau penodol. Os oes gennych ddiddordeb penodol mewn traethodau ymchwil diweddar, gallwch newid y fwydlen Didoli yn ôl (Sort By) ar ben y rhestr o ganlyniadau i Dyddiad diweddaraf i hynaf (Date descending) i osod y rhai diweddaraf ar frig y rhestr.

  • Mae'r casgliad traethodau ymchwil at ddibenion cyfeirio'n unig. Os hoffech edrych ar draethawd ymchwil, rhowch awdur, teitl a blwyddyn y traethawd ymchwil i'r staff wrth Ddesg y Llyfrgell. Bydd staff yn casglu'r eitem ar eich cyfer o'r storfa dan glo. Rhoddir y traethawd ymchwil i chi ar eich cerdyn llyfrgell ond cewch ei ddefnyddio yn y llyfrgell yn unig.  Dychwelwch yr eitem i Ddesg y Llyfrgell (neu'r peiriant dychwelyd awtomatig) pan fyddwch wedi gorffen ei ddefnyddio a chaiff ei ddileu o'ch cerdyn llyfrgell.

Traethodau Ymchwil Gwaharddedig

Caiff ychydig o draethodau ymchwil eu gwahardd o ddefnydd cyhoeddus am sawl blwyddyn - mae hyn fel arfer oherwydd bod gan y gwaith botensial masnachol a chan fod y myfyriwr wedi cael caniatâd y Brifysgol i beidio â’i wneud yn gyhoeddus yn syth. Os bydd hyn yn digwydd, bydd nodyn ar gofnod y catalog sy'n rhoi'r dyddiad y caiff y wybodaeth ei rhyddhau.  Ni chaiff neb ddarllen y traethawd ymchwil cyn y dyddiad hwnnw.

Traethodau Ymchwil Arbennig

Cedwir traethodau ymchwil DSc. a D.Litt yn y Llyfrgell a Chanolfan Wybodaeth. Gofynnwch amdanynt wrth Ddesg y Llyfrgell.


Answer

  • Last Updated May 15, 2024
  • Views 20
  • Answered By Daniel King

FAQ Actions

Was this helpful? 0 0