Sut ydw i'n trefnu apwyntiad gyda Llyfrgellydd?
Mae eich Llyfrgellwyr yn darparu apwyntiadau un i un i fyfyrwyr sy'n cael anawsterau neu sydd ag ymholiadau penodol am chwilio am lenyddiaeth, dewis a gwerthuso adnoddau a chyfeirnodi. Gallwch drefnu apwyntiad gan ddefnyddio'r ddolen ar y Canllaw Llyfrgell ar gyfer eich pwnc neu drwy ddefnyddio'r ddolen hon.
Trefnu apwyntiad gyda Llyfrgellydd
Os yw eich apwyntiad at ddibenion cyflwyniad cyffredinol i gyfeirnodi neu ddechrau ymchwil ar gyfer aseiniad, rydym wedi creu rhai canllawiau, tiwtorialau a fideos defnyddiol a all eich helpu i ddysgu'r sgiliau hyn. Efallai y bydd yr adnoddau hyn yn gallu ateb rhai o'ch cwestiynau neu eich pryderon heb fod angen apwyntiad.