Faint yw’r dirwy am lyfrau neu glinidauron sy’n cael eu dychwelyd yn hwyr?
- Cyflwynwyd adnewyddiadau awtomatig er mwyn annog defnydd adnoddau llyfrgell ac i leihau dirwyon. Er hynny, mae yna dal i fod amgylchiadau le gall dirwyon cael eu codi - gweler y tabl isod.
- Cyfrifoldeb y benthyciwr yw sicrhau bod adnoddau llyfrgell wedi'i dychwelyd mewn cyflwr da erbyn y dyddiad dychwelyd cyfredol. Gall dyddiadau dychwelyd cael eu byrhau os chaiff eitem ei adalw ar gyfer defnydd gan ddefnyddiwr arall y llyfrgell.
- Os nad ydych yn gallu dychwelyd eitem erbyn y dyddiad dychwelyd, cysylltwch â Llyfrgell MyUni ar unwaith os gwelwch yn dda, gan all hyn effeithio ar ddefnyddwyr eraill y llyfrgell.
- Rydym yn ddeall bod damweiniau'n digwydd ond os ydych yn difrodi neu yn colli eitem o'r llyfrgell, disgwylir i'r benthyciwr talu'r gost amnewid yn llawn. Gellir trefnu rhandaliadau.
- Ni chodir dirwyon ar eitemau gorddyledus o Lyfrgelloedd y Glowyr De Cymru a Banwen. Gall taliadau ar gyfer eitemau coll dal i fod yn berthnasol.
Math o eitem orddyledus |
Dirwy hwyr |
Gwybodaeth arall |
Benthyciad arferol (4 wythnos) gorddyledus sydd wedi'i adalw |
£2.00 yr eitem y diwrnod (hyd at derfyn o £20.00 yr eitem). |
Bydd eich cyfrif yn cael ei rewi tan fod dirwyon o dan £25. Golygir hyn bydd eitemau eraill ddim yn adnewyddu yn awtomatig. Gall hyn arwain at ddirwyon pellach. |
Eitem benthyciad byr (24 awr neu'n llai) |
£2.00 yr eitem y diwrnod (hyd at derfyn o £20 yr eitem). |
Ni chaiff yr eitemau hyn eu hadnewyddu. |
Benthyciadau gliniaduron |
£10 yr eitem y diwrnod (hyd at uchafswm o £100) |
Codir tal ar eitemau sydd wedi'u difrodi neu golli, a bydd yn cynnwys y gost lawn atgyweirio neu amnewid. |
Llyfr coll |
Cewch eich bilio am gost lawn amnewid unrhyw eitemau coll. Caiff eitemau coll ei amnewid gyda'r argraffiad cyfredol neu fwyaf diweddar.. |
Sylwer, mae'n bosib i gost lawn amnewid yr eitem fod yn sylweddol uwch na'r gost pryniant gwreiddiol. |