Sut y gallaf gael gafael ar feddalwedd Eviews?
Mae gan yr Ysgol Reolaeth drwydded rhwydwaith ar gyfer EViews yn y labordai cyfrifiaduron yn yr Ysgol Reolaeth ynghyd â'r cyfrifiaduron yn y llyfrgell. Oherwydd cyfyngiadau trwydded, ni all myfyrwyr ei defnyddio ar eu cyfrifiaduron personol. I gael mynediad at y feddalwedd ewch i Apiau Arbenigol yn y Bwrdd Gwaith Unedig. Byddwch yn dod o hyd i EViews o dan Adnoddau'r Ysgol Reolaeth.
Gellir prynu fersiwn myfyrwyr o EViews. Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth yn: http://www.timberlake.co.uk/software/eviews.html#students