Beth yw erthygl mewn cyfnodolyn a sut mae dod o hyd iddynt?

Fel arfer, cyhoeddir cyfnodolion yn rheolaidd, er enghraifft bob wythnos, bob mis neu bob chwarter, ac mae pob rhifyn yn cynnwys casgliad o erthyglau gan awduron gwahanol sydd fel arfer yn trafod yr ymchwil diweddaraf. Gallwch ddod o hyd i'r holl gyfnodolion rydym yn tanysgrifio iddynt drwy ddefnyddio iFind, catalog y llyfrgell.

Bydd yn bwysig iawn defnyddio cyfnodolion yn eich astudiaethau, oherwydd y byddant yn darparu gwybodaeth ddibynadwy a chyfredol, o ansawdd uchel.  Trwy ddefnyddioerthyglau mewn aseiniadau bydd yn dangos eich bod wedi darllen yn eang am eich pwnc.  Y brif ffordd o ddod o hyd i erthyglau am eich pwnc yw defnyddio cronfa ddata lyfryddiaethol.  Yn y bôn, casgliad o wybodaeth neu ddata wedi'i drefnu yw cronfa ddata.  Mae Prifysgol Abertawe'n talu am fynediad i gannoedd o gronfeydd data o safon uchel i'ch helpu i ddod o hyd i'r wybodaeth orau a diweddaraf ar gyfer eich ymchwil.  Mae'r prif gronfeydd data rydym yn eu hargymell wedi'u rhestru ar eich Canllaw Llyfrgell, bydd cynnwys pob cronfa ddata'n wahanol, felly mae'n well defnyddio mwy nag un gronfa ddata i sicrhau eich bod yn cael yr holl wybodaeth mae ei hangen arnoch.


Answer

  • Last Updated Aug 22, 2023
  • Views 29
  • Answered By Elen Davies

FAQ Actions

Was this helpful? 0 0