Rwy'n cael neges gwall wrth geisio cyrchu Westlaw. Beth ddylwn i ei wneud?
Gall holl fyfyrwyr a staff Prifysgol Abertawe gael mynediad i Westlaw gan ddefnyddio eu henw defnyddiwr a chyfrinair arferol Prifysgol Abertawe.
Os gwelwch y neges gwall "Nid yw eich proffil yn cynnwys allweddi cofrestru dilys", mae'n golygu bod eich cyfrif wedi'i ddadactifadu. Mae hyn yn digwydd pan fydd Thomson Reuters yn dileu cyfrifon anactif.
Os ydych chi'n cael trafferth cael mynediad i Westlaw, cysylltwch â'r llyfrgell trwy ein tudalen gymorth, a byddwn yn gofyn i Westlaw adfer eich proffil.