Pam na allaf gael mynediad at FT.com mwyach?
Nid oes gennym danysgrifiad i FT.com (The Financial Times) mwyach. Er mwyn parhau i gefnogi eich anghenion ymchwil o ran newyddion ariannol, marchnadoedd ariannol a datblygiadau busnes byd-eang, rydym yn gweithio i roi tanysgrifiad newydd i Bloomberg.com ar waith. Mae'r adnodd hwn yn cynnig cynnwys tebyg a thrylwyr a gobeithiwn y bydd ar gael i ddefnyddwyr yn fuan. Er na allwn nodi'r union ddyddiad lansio ar hyn o bryd, byddwn yn rhoi diweddariad i chi cyn gynted ag y mae'n barod.
Os oes angen cymorth arnoch wrth ddod o hyd i adnoddau amgen neu os oes gennych gwestiynau am y newid hwn, mae pob croeso i chi gysylltu â ni.
Answer
Nid oes gennym danysgrifiad i FT.com (The Financial Times) mwyach. Mae gennym fynediad at erthyglau o'r Financial Times drwy ein tanysgrifiadau i Nexis a ProQuest International Newsstream. Ceir embargo un mis ar yr erthyglau diweddaraf yn y ddwy gronfa ddata.
Er mwyn parhau i gefnogi eich anghenion ymchwil o ran newyddion ariannol, marchnadoedd ariannol a datblygiadau busnes byd-eang, rydym yn gweithio i roi tanysgrifiad newydd i Bloomberg.com ar waith. Mae'r adnodd hwn yn cynnig cynnwys tebyg a thrylwyr a gobeithiwn y bydd ar gael i ddefnyddwyr yn fuan. Er na allwn nodi'r union ddyddiad lansio ar hyn o bryd, byddwn yn rhoi diweddariad i chi cyn gynted ag y mae'n barod.
Os oes angen cymorth arnoch wrth ddod o hyd i adnoddau amgen neu os oes gennych gwestiynau am y newid hwn, mae pob croeso i chi gysylltu â ni.