Sut ydw i'n gosod neu'n canslo cais ar e-lyfr?
Gosod cais ar e-lyfr Ebsco
Dim ond nifer penodol o drwyddedau defnyddwyr cydamserol sydd gan rai o'n e-lyfrau. Bydd angen cyfrif EBSCO personol arnoch i osod cais ar e-lyfr. Ar ôl i chi greu hwn, gallwch glicio ar PDF Testun Llawn
Yna byddwch yn cael neges yn gofyn i chi osod cais
Byddwch yn derbyn e-bost i ddweud wrthych unwaith y byddwch yn gallu cael mynediad at yr e-lyfr.
Canslo cais ar e-lyfr Ebsco
Os nad oes angen yr e-lyfr arnoch mwyach, mewngofnodwch i'ch cyfrif Ebsco personol, a chliciwch ar Ffolder, yna Ceisiadau. Cliciwch ar ganslo cais.